Croeso i'r Adran Rygbi
Chwaraewyd gêm gyntaf Clwb Rygbi Pwllheli ym mis Medi 1972, ond roedd pethau wedi cychwyn yn yr Ysgol Ramadeg nifer o flynyddoedd cyn hynny. Datblygwyd y syniad o ffurfio Clwb Rygbi Pwllheli gan y diweddar Len Humphreys yn dilyn gêm rhwng cyn disgyblion Ysgol Ramadeg Pwllheli a Chlwb Rygbi Harlech yn ôl yn 1971. Os oedd y clwb am ddatblygu roedd rhaid chwilio am gartref parhaol. Dyma pryd y cafwyd y syniad o ymuno â Chlwb Criced Pwllheli yn yr ymgyrch o sefydlu Clwb Chwaraeon ym Mhwllheli. Llwyddwyd i gael gafael ar dir diolch yn bennaf i'r diweddar Anthony Jones, Penmaen, a datblygwyd Parc Bodegroes ar gyrion Efailnewydd ar ddechrau'r saithdegau fel cartref parhaol nid yn unig i rygbi a chriced, ond hefyd i hoci. Mewn lleoliad godidog mae Clwb Chwaraeon Pwllheli'n mynd o nerth i nerth ac yn cynnig amodau chwarae gyda'r gorau drwy Wynedd a thu hwnt.
Mae Wil Bing wedi bod yn ddiwyd yn casglu stwff ar hyd y blynyddoedd. Mae'r diolch yn fawr iddo fo am roi benthyg yr hyn oedd ganddo i'w defnyddio ar y wefan. Derbyniwyd deunydd gan unigolion eraill hefyd ac mae nhw'n cael eu cydnabod yn y man priodol oddi mewn y cynnwys. Mae peth hanes y blynyddoedd cynnar wedi'u cynnwys yn barod, ond mae llawer o hanes sydd dal ar goll.
Os oes ganddo’ch chi unrhyw beth fyddai o ddiddordeb pam na wnewch gysylltu fel y gallwn ei gynnwys ar y wefan. Gallwch wneud hynny wrth fynd i'r linc 'Cyswllt' ar ben y dudalen hon. Mae croeso hefyd i chi gyfrannu drwy adael sylw yn y llyfr gwesteion. Mae'r linc yma hefyd i'w gweld o dan y pennawd 'Sylwadau' ar frig y dudalen.
Cynnwys Newydd
- Gorffennaf 5ed 2010 Manylion Gemau 2010-11
- Mai 2ail 2010 Manylion Tymor 2009-10 ~ Canlyniadau, Lluniau, Adroddiadau
- Ebrill 26ain 2010 Y Ddau Jack... Jack Basset a Jack Wood ~ Hanes Rygbi Arthur Wyn Williams. Diolch yn fawr Arthur.
Gemau
Nant Conwy v Caernarfon
Wyddgrug v Pwllheli
Bro v Rhuthun
Llandudno v Bae Colwyn
Llangefni v Bethesda